Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 27 Ionawr
2016
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3533
Dywedodd y Llywydd fod nifer o bethau annerbyniol wedi cael eu dweud ddydd Mawrth yn ystod y ddadl ynghylch y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Undebau Llafur y DU, yn enwedig y defnydd a wnaed o’r gair ‘mob’ gan arweinydd yr wrthblaid. Atgoffodd yr Aelodau i fod yn barchus wrth gyfeirio at ei gilydd ac at bobl y tu allan i’r Siambr.
Dechreuodd yr eitem am 13.31
Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 7 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 1, 3 a 4 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NDM5935 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 01-16 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 19 Ionawr 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a
2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
NNDM5940 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i'r cynnig o dan eitem 4 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd Mercher, 27 Ionawr 2016.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.09
NNDM5937 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Adroddiad 02-16 - a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 20 Ionawr 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9; a
2. Yn cymeradwyo'r argymhelliad yn yr adroddiad.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5934 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi setliad llywodraeth leol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17;
2. Yn gresynu at gynigion i dorri'n sylweddol y cyllid a delir i nifer o awdurdodau lleol sydd wedi eu lleoli mewn ardaloedd gwledig ledled Cymru ac yn mynegi pryder ynghylch yr effaith y gallai hyn ei gael ar wasanaethau cyhoeddus lleol a chyfraddau'r dreth gyngor;
3. Yn gresynu ymhellach at fethiant Llywodraeth Cymru i ymgysylltu'n ddigonol â llawer o awdurdodau lleol gwledig ledled Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch effaith setliad llywodraeth leol 2016-17, sydd wedi arwain at ansicrwydd mawr mewn sawl rhan o Gymru; a
4. Yn credu bod archwilio'r fformiwla sy'n dyrannu cyllid llywodraeth leol yng Nghymru yn angenrheidiol i sicrhau na fydd setliadau Llywodraeth Cymru yn cael effaith anghymesur ar lawer o awdurdodau lleol ledled Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw am gyflwyno, yn y setliad hwn, y grant sefydlogi gwledig a gynigiwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod diwygio llywodraeth leol yn gyfle i gytuno ar fformiwla ariannu newydd sy'n ystyried tegwch, amddifadedd a theneurwydd poblogaeth ac sy'n cael ei chyflwyno dros gylch ariannu tair blynedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.12
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5939 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;
2. Yn nodi cynllun economaidd tymor hir Plaid Cymru fel modd i hybu twf economaidd cynaliadwy sy'n cynnwys sefydlu corff masnach newydd, banc cenedlaethol i Gymru a chomisiwn seilwaith cenedlaethol; a
3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
39 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y ffaith bod gweinyddiaethau olynol Llywodraeth Cymru ers 1999 wedi â methu mynd i'r afael â chau'r bwlch ffyniant yn effeithiol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
32 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
20 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Mewnosod pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod y bydd y polisïau a nodir yn 'Cyrchfan Cymru', 'Buddsoddi Cymru' a 'Gweledigaeth ar gyfer y Stryd Fawr yng Nghymru' yn cyflawni datblygiad economaidd a chymdeithasol cynaliadwy ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy i'r diwydiant dur, ei bod yn ofynnol bod:
a) yr Undeb Ewropeaidd yn cymryd camau i fynd i'r afael â dympio dur gan Tsieina;
b) Llywodraeth y DU yn parhau i gymryd camau i fynd i'r afael phrisiau ynni uchel a etifeddwyd gan y blaid Lafur;
c) Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes;
d) lleiafswm o ran y safonau sy'n ofynnol ar gyfer dur o fewn prosesau caffael y sector cyhoeddus;
e) pecyn o gefnogaeth i staff y disgwylir iddynt golli eu swyddi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 3:
'ac yn galw am ddileu ardrethi busnes ar offer a pheiriannau a sefydlu cwmni adfywio trefol i Bort Talbot.'
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
33 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5939 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylai cau'r bwlch ffyniant gyda gweddill y DU fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru;
2. Yn credu ym mhwysigrwydd darparu strategaeth economaidd gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio ac sy'n mynd i'r afael â thanddatblygiad Cymru a'r angen am fanc datblygu i Gymru i gefnogi ymrwymiad hirdymor i fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru; a
3. Yn cefnogi dyfodol llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer diwydiannau sylfaen, gan gynnwys y diwydiant dur yn arbennig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
11 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5938 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod argyfwng tai yng Nghymru, gan nodi yn benodol:
a) bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o argymhellion yr adroddiad Holmans ar adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031;
b) yr amcangyfrifir bod dros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol;
c) bod llawer o brynwyr tro cyntaf yn parhau i gael trafferth i fynd ar yr ysgol eiddo; a
d) bod yn rhaid gwneud mwy i amddiffyn tenantiaid rhag arferion annheg ac i wella ansawdd a diogelwch cartrefi gwael yn y sector rhentu preifat.
2. Yn credu bod angen mwy o uchelgais i sicrhau bod pob person yn cael cartref diogel a fforddiadwy, sy'n gallu bod yn ffactor allweddol o ran hybu iechyd, lles a chyfle, ac y dylai hyn gynnwys:
a) dyblu'r targed ar gyfer tai fforddiadwy i 20,000 yn ystod y Cynulliad nesaf;
b) cynllun rhentu i berchen i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartrefi eu hunain heb flaendal; ac
c) gweithredu i wella ansawdd a diogelwch cartrefi yn y sector rhentu preifat a thribiwnlys eiddo preswyl i feirniadu ar anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
44 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le:
bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o:
i) argymhellion adroddiad Holmans ynghylch adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031;
ii) argymhellion adroddiad Sefydliad Bevan, 'The Shape of Wales to Come', a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2028; a
iii) y farn a fynegwyd gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru ar fuddsoddi mewn tai cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
27 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 2:
Dileu 'dylai' a rhoi 'gallai' yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
28 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys isbwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2:
diwygio cyfraith tenantiaeth i gyflwyno rheolaethau rhent a rhoi tenantiaethau tymor hwy, mwy diogel ac o ansawdd uwch i rentwyr;
sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto;
datblygu cwmnïau tai o dan berchnogaeth gyhoeddus er mwyn ymateb i angen lleol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod angen i Gymru weithredu rhaglen ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad ac felly gwneud tai yn fwy fforddiadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.04
Dechreuodd yr eitem am 18.11
NDM5936 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Ffordd newydd ar gyfer gorllewin Cymru.
Yr angen am fwy o gefnogaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng ngorllewin Cymru a mwy o fuddsoddiad ynddynt.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.37
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 2 Chwefror 2016